Mae’r newyddiadurwr a’r darlledwr, Lyn Ebenezer, yn cofio’r diweddar Gwilym Owen fel “hen foi meddal iawn”, er ei fod yn hoff o ymddwyn yn “ddyn caled”.

Wrth hel atgofion am y newyddiadurwr a fu farw yn 87 yr wythnos hon, mae Lyn Ebenezer yn dweud iddo dderbyn sawl gwahoddiad gan Gwilym Owen i adolygu’r papurau ar BBC Radio Cymru dros y blynyddoedd.

Ac roedd hynny, pwysleisia, yn y dyddiau pan mae “dim ond newyddiadurwyr” oedd â’r hawl i adolygu.

Ond y tu hwnt i fyd newyddiaduriaeth, mae Lyn Ebenezer yn nodi mai dyn “caredig tu hwnt” oedd  Gwilym Owen, a oedd i’r gwrthwyneb i’r ddelwedd ohono fel “hen foi oedd yn mynd yn groes i bopeth”.

“Roedd e’n dod i lawr i Aberystwyth bob hyn a hyn er mwyn gweld  y bobol oedd yn gweithio iddo fe, ac fe fyddwn ni’n cwrdd yn [nhafarn] y Cŵps am ryw awr neu ddwy, a’r amser hynny roedd Gwilym ar ei orau,” meddai Lyn Ebenezer wrth golwg360.

“Fe wnaeth e lawer o elynion, doedd dim dadl am hynny, ond doedd pobol ddim yn ei nabod e. Doedden nhw ddim yn deall y cymeriad…

“Dim ond ei orau welais i erioed.”