Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi beirniadu’r ddau ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, gan ddweud nad ydyn nhw’n “ffrindiau i Gymru”.

Daw sylwadau Liz Saville Roberts ar drothwy’r hystingau yng Nghaerdydd, lle bydd Boris Johnson a Jeremy Hunt yn ateb cwestiynau aelodau’r blaid ar lawr gwlad.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae gan y ddau Aelod Seneddol sydd yn y ras i olynu Theresa May yn Brif Weinidog Prydain, “hanes o danseilio’r hyn sydd o fudd i Gymru”.

Mae hi hefyd yn feirniadol o Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, am gefnogi ymgyrch Boris Johnson oherwydd eu bod nhw “eisiau cadw eu swyddi”.

‘Dyw Cymru ddim yn flaenoriaeth’

“Dyw Cymru ddim yn flaenoriaeth i Mr Johnson a Mr Hunt, ac yn fwy o hindrans iddyn nhw, fwy na thebyg,” meddai Liz Saville Roberts.

“Allwn ni ddim ymddiried ynddyn nhw i ddiogelu a hyrwyddo ein buddiannau cenedlaethol.

“Yn y gorffennol, mae’r Torïaid wedi ceisio sarnu datganoli ac, yn y presennol, maen nhw wedi gohirio buddsoddiadau fel y morlyn [ym Mae Abertawe] a’r cynllun i drydaneiddio’r rheilffyrdd.

“Ac wrth i’r ddau yma geisio cael gafael ar y brif swydd wedi ymrwymo i sicrhau Brexit hollol ddinistriol, mae’n edrych yn debyg bod y Ceidwadwyr yn mynd i barhau’r traddodiad o danseilio buddiannau Cymreig ymhell i’r dyfodol.”