Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth dynes yn Llanbedr Pont Steffan y llynedd wedi cael ei ryddhau ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.

Cafodd y dyn, 40, ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Katarzyna ‘Kasia’ Elzbieta Paszek, 39, a fu farw yn yr ysbyty wedi digwyddiad mewn eiddo ynghanol y dref ar Dachwedd 8.

Cafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach, ond mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cadarnhau na fyddan nhw’n cymryd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.

Daw’r penderfyniad yn sgil adroddiad patholegydd ac ymgynghoriad gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, meddai llefarydd ar ran y llu.