Bydd Plaid Cymru wedi dewis ymgeisydd i herio’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd erbyn prynhawn yfory (dydd Sadwrn, Gorffennaf 6).

Mae Pwyllgor Etholaeth Dwyfor Meirionydd yn cynnal eu cynhadledd ddewis derfynol ddydd Sadwrn, ac mi fydd yr hystings yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.

Cafwyd hystings yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau hefyd, ble’r oedd tua 180 yn cymryd rhan.

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, sy’n gyn-Arweinydd Plaid Cymru ac yn gyn-Lywydd y Cynulliad, wedi bod yn Aelod Cynulliad ar Ddwyfor Meirionnydd ers cychwyn y Cynulliad 20 mlynedd yn ôl.

Yn yr etholiad Cynulliad diwethaf yn 2016 roedd ganddo fwyafrif o tua 6,500. Fe adawodd y Blaid yn 2016 ac mae bellach yn Weinidog yn Llywodraeth Lafur Cymru.

Y chwe ymgeisydd

  • Nia Jeffreys – cynghorydd sir o Borthmadog sydd wedi gweithio i Dafydd Wigley ac Elfyn Llwyd;
  • Simon Brooks – cynghorydd tref Porthmadog sy’n academydd, awdur ac ymgyrchydd iaith;
  • Mabon ap Gwynfor – cynghorydd sy’n cynrychioli Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych;
  • Elin Roberts – myfyrwraig sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog ac yn astudio ym Mharis;
  • Llywelyn Rhys – cadeirydd y Pwyllgor Etholaeth ac aelod o Gyngor Tref Porthmadog;
  • Elin Walker Jones – aelod o Gyngor Gwynedd sy’n byw ym Mangor.

Y broses

Bydd y gynhadledd ddewis yn dechrau am 11 y bore gyda’r ymgeiswyr yn traddodi eu hareithiau agoriadol, ac wedyn mi fydd y chwech yn wynebu sesiwn cwestiwn ac ateb.

Wedi hynny mi fydd aelodau Plaid Cymru’r etholaeth yn bwrw eu pleidleisiau.

Mae disgwyl i’r pleidleisiau ddechrau cael eu cyfrif am tua 1.30 y prynhawn, ac mi fydd pleidleisiau Dolgellau hefyd yn cael eu cyfri gyda’r rhain.

Mae golwg360 yn deall bydd y cyfri wedi gorffen erbyn 2.30 y prynhawn, a bod y cyhoedd yn debygol o wybod y canlyniad yn fuan wedi hynny.