Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag “ymddwyn yn drefedigaethol” tuag at wledydd Prydain.

Daw rhybudd Mark Drakeford yn sgil araith Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ddydd Iau (Gorffennaf 4) ar gyflwr yr undeb.

Wrth siarad yn yr Alban, mi gyhoeddodd adolygiad i sut mae adrannau ei Llywodraeth yn delio â datganoli, ac mi soniodd hefyd am Brexit.

Dywedodd ei fod yn “peri her i’r undeb”, ond mynnodd bod mod modd gwireddu Brexit a chryfhau’r undeb rhwng gwledydd Prydain ar y cyd.

Mae Mark Drakeford wedi beirniadu’i haraith gan ddweud ei bod yn “hwyr iawn” yn mynd i’r afael â’r materion yma.

“Chwifio’r faner”

“Y peth olaf rydyn ni ei eisiau yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymddwyn yn drefedigaethol ac yn meddwl mai’r ffordd i achub yr undeb yw dod i Gymru a’r Alban a chwifio’r faner atom,” meddai.

“Gan weithio law yn llaw â’r Alban, rydyn ni wedi cyflwyno cyfres o gynigion a fyddai’n galluogi’r Deyrnas Unedig i weithredu’n llwyddiannus ar ôl Brexit.

“Os yw’r Prif Weinidog o ddifri ynghylch diogelu a chryfhau’r undeb, dylai hi fod yn edrych yn iawn ar y syniadau hynny.”

Fis diwethaf cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ddatganiad ar y cyd yn galw ar olynydd Theresa May i “ddiystyru” Brexit heb gytundeb.