Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau na fyddan nhw’n sefyll yn is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Mae’r Blaid wedi bod yn ystyried y posibilrwydd ers rhai wythnosau, ac mae disgwyl i’w penderfyniad fod o fudd i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn debyg i Blaid Cymru mae’r blaid honno yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond yn wahanol i’r Blaid mae hi wedi ennill y sedd sawl gwaith yn y gorffennol.

Yn ôl Adam Price byddai unrhyw fersiwn o Brexit yn “drychineb i Gymru”, ac mae’n dweud mai “egwyddor sydd wrth wraidd [eu] penderfyniad”.

“Rydym yn ymrwymedig i fudd cenedlaethol Cymru ac i’r ymgyrch o blaid aros,” meddai arweinydd Plaid Cymru wedyn.

“Allwn ni ddim caniatáu i’r is-etholiad fod yn gyfle i bleidiau sydd o blaid Brexit i wthio eu polisïau niweidiol ar ein cymunedau.

“O ganlyniad i’n harweiniad rydym wedi cymryd cam gyntaf tuag weithredu’n wleidyddol mewn ffordd wahanol.”

“Croeso mawr”

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a’u hymgeisydd yn yr etholaeth wedi rhoi “croeso mawr” i gefnogaeth Plaid Cymru.

“Dyma benderfyniad dewr o bwys hanesyddol,” meddai Jane Dodds. “Mae hyn o fudd i achos blaengar.

“Yn yr isetholiad yma rydym yn mynnu gwell i bobol leol a busnesau. Dydyn ni ddim yn mynnu gwell tros Brexit yn unig – proses sy’n peri risg difrifol i fywydau ffermwyr.

“Rydym yn mynnu gwell tros iechyd a gwasanaethau gwledig hanfodol hefyd.”

Cefndir

Cafodd yr isetholiad ei danio gan aelodau’r etholaeth, a daw yn sgil achos o dorcyfraith ar ran eu cyn-Aelod Seneddol.

Ym mis Mawrth, cafwyd Chris Davies yn euog o wneud ceisiadau ffug am dreuliau, a fis diwethaf mi alwodd 10% o’i etholaeth arno i gamu o’r neilltu.

Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal ar Awst 1 ac mi fydd Chris Davies yn sefyll tros y Ceidwadwyr yno.

Yn cynrychioli Plaid Brexit bydd Des Parkinson a Tom Davies fydd yn cynrychioli’r Blaid Lafur.