Bydd 20 o swyddi newydd yn cael eu creu yn nhref Llanbed wrth i hen ganolfan dderbyn buddsoddiad gwerth £3m.

Y bwriad yw troi Canolfan Dulais – yr ‘hen agri’ yn lleol – yn “Ganolfan Fenter Gymdeithasol” a fydd yn cynnig lle i 15 o fusnesau bach ac elusennau.

Bydd y ganolfan bresennol yn cael ei dymchwel, gydag adeilad deulawr 1,250m yn cymryd ei lle.

Yn gyfrifol am y datblygiad fydd Tai Ceredigion, perchnogion y ganolfan, ac maen nhw wedi elwa ar £1.5m gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys £1.1m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd.

Gwella edrychiad y dref

Yn ogystal â gofod i fusnesau ac elusennau, bydd Canolfan Dulais ar ei newydd wedd hefyd yn cynnig ystafelloedd ar gyfer cynadleddau a hyfforddi, gan gynnwys band eang cyflym.

Yn ôl Selwyn Walters, aelod o’r cyngor tref a dirprwy faer Llanbed, mae’r buddsoddiad yn “newyddion da”.

“Mae’r Cyngor Tref wedi cefnogi’r cynlluniau o’r dechrau,” meddai Selwyn Walters wrth golwg360.

“Mae’n newyddion da, a gobeithio y bydd yn gwella’r lle ac yn gwneud y lle i edrych yn well.

“Doedd e ddim yn adeilad posh o’r dechrau… ond dw i’n credu y bydd yn hwb da i’r dref i gael adeilad smart yna.”