Mae dau o bobol wedi’u lladd ar ôl cael eu taro gan drên ger gorsaf drenau Port Talbot fore heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 3).

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad toc cyn 10yb.

Fe fu parafeddygon yn trin y ddau, ond fe fuon nhw farw yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad, ac yn ceisio eu hadnabod er mwyn rhoi gwybod i’w teuluoedd.