Fuodd tasglu cwmni ceir Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyfarfod am y tro cyntaf fore heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 1) i ystyried ffyrdd o helpu’r gweithwyr, diogelu dyfodol y ffatri ac effaith cau’r safle ar y gymuned.

Yn rhan o’r tasglu roedd y cadeirydd Cadeirydd, Richard Parry-Jones, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru,  Alun Cairns.

Roedd cynrychiolwyr Llywodraeth gwledydd Prydain yno hefyd ynghyd ag undebau llafur, awdurdodau lleol, y gymuned fusnes ac eraill.

Yn ôl datganiad ar y cyd gan y tasglu, roedd y trafodaethau cychwynnol hynny yn rhai “adeiladol ac ystyrlon iawn.”

Bydd 1,700 swydd yn cael eu colli ym mis Medi’r flwyddyn nesaf ar ôl i’r cwmni benderfynu cau’r safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 Pobl, posibiliadau a lle

Mae Ford wedi gwneud cynnig i ddod a chynhyrchiant injan newydd Ford 1.5 litr ac injan Jaguar Land Rover i ben ym Mhen-y-bont erbyn mis Chwefror 2020.

Yn dilyn y cyfarfod, mae’r tasglu wedi sefydlu ffrwd waith gan ganolbwyntio ar ‘Pobl, Posibiliadau a Lle’.

Mae’r rhain yn cael eu rhannu fel hyn:

–     “Pobl: I gefnogi pob gweithiwr a’u teuluoedd sy’n cael eu heffeithio yn uniongyrchol ac anuniongyrchol o ganlyniad i gau’r ffatri.

–     “Posibiliadau: I nodi a hyrwyddo cyfleoedd economaidd y safle, yr ardal, y gweithlu, a’r gadwyn gyflenwi er mwyn creu opsiynau masnachol hyfyw a chynaliadwy.

–     “Lle: I adeiladu ar gydnerthedd economaidd a chymdeithasol cymuned Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal, hyrwyddo a datblygu hyder economaidd.”

O hyn ymlaen fe fydd y prif dasglu “yn cyfarfod yn rheolaidd”, a bydd y ffrydiau gwaith yn cyfarfod “mor aml â phosibl,” yn ôl y datganiad.

“Bu’r Tasglu’n trafod maint yr her a’r prif broblemau o ran gweithredu ar unwaith. Cytunodd yr aelodau y bydd y prif Dasglu yn cyfarfod yn rheolaidd, gyda’r ffrydiau gwaith yn cyfarfod mor aml â phosibl.

“Mae pob aelod o’r Tasglu yn cytuno i barhau i gydweithio yn adeiladol i gefnogi’r gweithwyr, eu teuluoedd a’r gymuned yn ehangach yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn.”