Mae ’na “bryder cynyddol” ymhlith teithwyr wrth i gwmni awyrennau Flybe ganslo mwy o hediadau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd, yn ôl Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig.

Cafodd nifer o hediadau eu canslo wythnos ddiwethaf a heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 1) mae hediadau i Gaeredin a Glasgow ac yn ôl wedi cael canslo, meddai Andrew RT Davies.

Mae’r maes awyr wedi derbyn miliynau o bunnoedd o gymorth trethdalwyr i greu llwybrau hedfan newydd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae Andrew RT Davies nawr yn galw am “ddatganiad brys” gan y Gweinidog a’r Maes Awyr.

“Mae’r nifer cynyddol o wasanaethau Flybe sy’n cael eu canslo neu eu gohirio yn creu pryder mawr ac mae teithwyr yn rhwystredig bod eu cynlluniau yn cael eu canslo ar y funud olaf,” meddai Aelod Cynulliad Canol de Cymru, Andrew RT Davies sy’n dweud bod nifer o etholwyr wedi cysylltu ag o.

Fe gyhoeddodd Flybe ym mis Hydref y llynedd ei fod yn bwriadu gadael y maes awyr ac ers hynny mae’r gwasanaeth wedi “dirywio’n syfrdanol”, meddai Andrew RT Davies.

“Mae angen datganiad brys gan y Gweinidog a’r Maes Awyr i amlinellu’r hyn sy’n achosi’r cansladau yma a pha gamau sy’n cael eu cymryd i helpu teithwyr, i ddiogelu enw da’r maes awyr a chael arian y trethdalwyr yn ôl.”

Mae Flybe wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra i gwsmeriaid o ganlyniad i ganslo pump o hediadau wythnos ddiwethaf am “resymau gweithredol” ac eto bore dydd Llun “yn sgil problemau dros y penwythnos”.

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn gwneud “popeth posib i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto yn y dyfodol” a bod cwsmeriaid yn cael y cynnig o deithio ar hediadau eraill neu gael eu had-dalu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i’r maes awyr oedd hyn.