Mae Cymru’n paratoi ar gyfer ymweliad brenhinol i nodi hanner canmlwyddiant y Tywysog Charles yn cael ei arwisgo’n Dywysog Cymru.

Bydd y tywysog a’i wraig, Duges Cernyw, yn dod i Gymru yr wythnos hon am wythnos o ymweliadau swyddogol i nodi’r achlysur.

Ar ddiwrnod yr hanner canmlwyddiant, fe fyddan nhw yng nghanolfan alw Ymddiriedolaeth y Tywysog yn Nantgarw ger Pen-y-bont ar Ogwr i gyfarfod â rhai o’r bobol ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Fe fydd y tywysog hefyd yn ymweld â Choedwig Ty’n-y-Coed, lle bydd yn gweld sut mae ceffylau’n cyfrannu at waith pren yng nghoedwigoedd Llantrisant.

Ond fydd e ddim yn ymweld â Chaernarfon yr wythnos hon, wrth iddo fe a’i wraig ymweld â Chymru am y bymthegfed flwyddyn yn olynol.

Ymweliadau eraill

Bydd y ddau hefyd yn ymweld â phencadlys Heddlu’r De ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Llantrisant.

Wrth deithio i’r gorllewin, byddan nhw’n mynd i’w cartref yn Llwynywermod ger Llanymddyfri, lle bydd noson o adloniant yng nghwmni’r tenor Wynne Evans.

Yno, bydd enw’r delynores frenhinol newydd yn cael ei gyhoeddi.

Bydd y tywysog yn Abertawe ddydd Mercher (Gorffennaf 3), i nodi hanner canmlwyddiant ers iddi ddod yn ddinas.

Yno, bydd yn ymweld â chapel y Tabernacl yn Nhreforys.

O’r fan honno, byddan nhw’n teithio i Lanofer yn Nhredegar Newydd a chanolfan ganser Maggie’s yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Ddiwedd yr wythnos, byddan nhw’n mynd i’r Ysgwrn, cartre’r bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, yn ogystal ag eglwys Mallwyd ym Machynlleth ar gyfer gwasanaeth Plygain.