Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna ardaloedd lle mae’n “parhau’n anodd” i gleifion gael gafael ar ddeintyddion.

Daw’r sylw wedi i Gymdeithas Ddeintyddol Prydain (CDdP) gyhoeddi gwaith ymchwil ar y mater, ac wedi i Blaid Cymru ddweud bod “gormod” yn methu cael gafael ar ddeintydd.

Mae’r ymchwil yn dangos mai dim ond un o bob chwe phractis yng Nghymru sydd yn medru cynnig apwyntiadau i gleifion GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) newydd.

Roedd ymchwilwyr wedi cysylltu â phob practis yng Nghymru ym mis Ebrill 2019.

“Siomedig”

“Mae’n siomedig bod CDdP Cymru wedi methu a chydnabod y newidiadau sylweddol yr ydym yn eu gwneud fel rhan o’n diwygiadau i gontractau deintyddol,” meddai llefarydd.

“Mae CDdP yn rhan o’r rhaglen ac mae newidiadau yn cael eu croesawu gan glinigwyr deintyddol. Bellach mae 94 practis ledled Cymru yn cymryd rhan…

“Rydym yn cydnabod bod yna ardaloedd lle mae’n parhau’n anodd cael gafael ar ddeintyddion. Rydym yn anelu i safle lle mae unrhyw un sydd eisiau gofal deintyddol yn medru ei gael.”

Mae dros 35,000 yn fwy o gleifion GIG yn derbyn gwasanaeth deintyddol GIG na phum mlynedd yn ôl.