“Mae yna ormod o bobol yng Nghymru sydd yn methu cael mynediad at ddeintydd.”

Dyna mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Helen Mary Jones, wedi ei rybuddio wedi i ymchwil diweddaraf Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (CDdA) gael ei gyhoeddi.

Mae’r ymchwil yn dangos mai dim ond un o bob chwe phractis yng Nghymru sydd yn medru cynnig apwyntiadau i gleifion GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) newydd. Roedd ymchwilwyr wedi cysylltu a phob practis yng Nghymru ym mis Ebrill 2019.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos mai dim ond 27% o bractisau sydd yn derbyn cleifion GIG newydd sydd yn blant.

“Gormod o bobol”

Yn ôl Helen Mary Jones, dyw’r drefn sydd ohoni ddim yn gweithio, a rhaid diwygio deintyddiaeth yma yng Nghymru.

“Gallwch ddadlau nad yw’n gynaliadwy darparu deintyddiaeth trwy gontractau cymhleth,” meddai Helen Mary Jones, “a dyma dystiolaeth bellach o hynny.”

“Mae yna ormod o bobol yng Nghymru sydd yn methu a chael mynediad at ddeintydd, a fuaswn i ddim yn synnu pe bai’r ffigurau yma yn uwch yn ardaloedd tlotach Cymru.”

“Galwadau diddiwedd beunyddiol”

  • Mae 41% o bractisau yn derbyn ymholiadau dyddiol gan gleifion newydd sydd eisiau apwyntiadau
  • Mae un practis yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn honni eu bod yn derbyn 60 galwad y diwrnod gan ddarpar gleifion
  • Mae un practis ym Mhowys yn honni eu bod yn derbyn “galwadau diddiwedd beunyddiol”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.