Mae Cymru wedi derbyn £10m gan y Loteri Genedlaethol fydd yn mynd at gefnogi treftadaeth y wlad.

Fe fydd yr arian yn cael ei roi I wyth prosiect sy’n amrywio o warchod natur a thirweddau, diogelu hanes darlledu’r genedl, achub adeiladau hanesyddol bwysig, dosbarthiadau awyr agored, a sesiynau cof i bobol â dementia.

Dyma’r arian cyntaf mae Cymru wedi’i dderbyn gan y Loteri Genedlaethol ers iddi sefydlu ei fframwaith ariannu strategol newydd ddechrau eleni.

Dyma’r prosiectau fydd yn cael eu hariannu:

  • Archif Ddarlledu Cenedlaethol i Gymru – £4,751,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Partneriaeth Tirwedd y Carneddau – £1,719,500 i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Ynys Cybi: Cynllun Partneriaeth Tirwedd Ynys i’w Thrysori – £1,146,000 i Gyngor Sir Ynys Môn
  • Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg – £774,900 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi – £525,500 i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn
  • Cysylltu’r Dreigiau: adfer poblogaethau a chynefinoedd ymlusgiaid ac amffibiaid yn Ne Cymru £428,700 i’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid
  • Cochion Iach – £247,100 i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
  • Prosiect Tŵr a Chlychau Nanhyfer – £123,600 i Eglwys Nanhyfer

“Amrywiol a chyfoethog”

“Mae’r gwobrau hyn yn dangos pa mor amrywiol a chyfoethog yw ein treftadaeth, a faint mae pobl yn poeni am bob agwedd ohono,” meddai Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, y Farwnes Kay Andrews.

“Ni fyddai hyn yn bosibl heb y rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch am ein galluogi i fuddsoddi yn y prosiectau gwych hyn ac yn ein cymunedau ym mhob rhan o Gymru.

“Diolch i chi, gallwn ddod â straeon yn ogystal ag adeiladau yn fyw a gallwn warchod ein bywyd gwyllt a’n tirweddau er mwyn iddynt fod yno ar gyfer y dyfodol. Adlewyrchir y blaenoriaethau hynny yn y dyfarniadau diweddar hyn.”