Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i adroddiadau bod merch ifanc rhwng pedair a chwech oed yn crwydro ar ei phen ei hun yn nhref Caerfyrddin.

Yn ôl yr adroddiad roedd y ferch ar ei phen ei hun y tu allan i siop New Look ar St Catherine’s Walk yn y dref tua 1.30 o’r gloch y prynhawn yma (Dydd Iau, Mehefin 27).

Fe’i gwelwyd yn cerdded tuag at gyfeiriad y maes parcio aml-lawr gyfagos.

Does neb wedi gweld y ferch ers hynny ac nid yw’r heddlu wedi derbyn unrhyw alwad yn rhoi gwybod am ferch ar goll yn yr ardal.

Mae’r heddlu yn tybio bod y ferch wedi dod o hyd i’w mam – ond maen nhw’n parhau i geisio cadarnhau hyn.

Roedd gan y frech fach wallt brown lawr at ei hysgwyddau, roedd yn gwisgo top pinc ac yn gwthio pram gyda doli ynddi.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101 gan ddyfynnu 186 a Mehefin 27.