Fe fydd dau ddyn yn mynd i’r carchar ar ôl i ddyn ifanc gael ei saethu i farwolaeth yn Llanbedrog, ger Pwllheli.

Cafodd Peter Colwell, 18, ei ladd ar Chwefror 5 2017 ar ôl cael ei saethu mewn  Land Rover Discovery ym maes parcio Tafarn y Llong ym mhentref Llanbedrog.

Canfuwyd perchennog y gwn a ddefnyddiwyd i ladd Peter Colwell – Ben Wilson, 29, yn euog o ddynladdiad drwy esgeulustod yn gynharach wythnos yma a chafwyd yr ail ddyn, Ben Fitzimons, 23, yn ddieuog o’r un trosedd.

Cafodd Ben Fitzimons ei ganfod yn euog o fod â gwn wedi’i lwytho mewn man cyhoeddus, fodd bynnag, a chafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar yn Llys y Goron Caernarfon heddiw (Dydd Iau, Mehefin 27).

Roedd y tri – Peter Colwell, Ben Fitzimons, a Ben Wilson – wedi bod yn teithio i wahanol dafarndai wrth yfed ar noson y farwolaeth.

Roedd y gwn wedi ei lwytho yn sedd flaen y cerbyd yn pwyntio tuag at y sedd gefn, meddai’r erlynydd Patrick Harrington.

Pan ddaeth y tri yn ôl i’r car, roedd Ben Fitzimons yn y sedd flaen a Peter Colwell yng nghanol y sedd gefn.

O fewn ychydig amser cafodd y gwn ei saethu, yn ôl Patrick Harrington, a chafodd Peter Colwell ei ladd yn syth yn y fan a’r lle gan ergyd i’w ben.

“Damwain oedd hon”

Nid oedd y lladd yn un bwriadol na maleisus.

“Damwain oedd hon, ond un roedd modd ei hosgoi,” meddai’r Barnwr Rhys Rowlands yn Llys y Goron Caernarfon.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Gerwyn Thomas “byddai marwolaeth drist Peter Colwell dim ond deunaw oed wedi gallu cael ei osgoi yn llwyr, mae’r farwolaeth erchyll wedi gadael ei deulu yn dorcalonnus.

“Mae’r achos hwn yn dangos y canlyniadau trychinebus pan mae pobl yn dangos diystyriaeth haerllug a didaro dros ddiogelwch gynnau sylfaenol a’r fraint maent yn ei chael wrth feddu trwydded wn.

“Mae’n iawn fod y dynion hyn wedi cael dedfrydau o garchar. Rwy’n gobeithio y byddant yn treulio’r amser i adlewyrchu ar eu hymddygiad anghyfrifol dros ben.”