Dylai Llywodraeth Cymru wneud “popeth o fewn eu gallu” i ddiogelu dyfodol ffatri gaws yn y gogledd.

Mae safle Cwmni Fwyd GRH ym Minffordd – rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth – ac fe gafodd ei ariannu’n rhannol gan grant £1.7m gan Lywodraeth Cymru.

Ond bellach mae wedi dod i’r amlwg nad oes gan y cwmni ddigon o arian i barhau, a bod 90 o swyddi yn y fantol. Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi codi pryderon am hynny.

“Mae’r newyddion diweddaraf hyn yn peri pryder sylweddol i’r sector llaeth yng Nghymru,” meddai Dai Miles, Cadeirydd Pwyllgor Llaeth UAC.

“Os yw hyn yn golygu colli rhagor o brosesu yng Nghymru, yna mae hyn yn golygu colli manteision economaidd prosesu yng Nghymru a phryder mawr i gynhyrchwyr llaeth yn yr ardal.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Byddwn yn gweithio yn awr … er mwyn sicrhau prynwr i’r safle, ac er mwyn diogelu cyflogaeth leol ar gyfer staff sydd wedi colli eu swyddi,” meddai Llywodraeth Cymru.

“Rydym eisoes yn cynnal trafod â busnesau lleol er y diben yma.”