Mae’r heddlu wedi arestio pedwar person mewn cysylltiad â llofruddiaeth Gerald Corrigan, 74, yn ei gartref ym Môn.
Mae dyn, 38, o ardal Bryngwran wedi ei arestio ar amheuaeth o ladd y cyn-ddarlithydd ymhlith troseddau eraill.
Mae dau ddyn arall, sef dyn, 48, o ardal Caergeiliog, a dyn, 36, o Fryngwran, yn cael eu hamau o gynllwynio i lofruddio a chynllwynio i dwyllo, yn ogystal â chyflawni troseddau cysylltiedig eraill.
Cafodd dynes, 50, ei harestio ar amheuaeth o wyngalchu arian ac mae hi hefyd yn cael ei hamau o gyflawni troseddau’n ymwneud â thwyll.
Cefndir
Cafodd Gerald Corrigan ei saethu gan fwa croes tra oedd yn addasu lloeren y tu allan i’w gartref mewn ardal anghysbell ger Caergybi ar Ebrill 19.
Cafodd y pensiynwr anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad a bu farw’n ddiweddarach ar Fai 11.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw’n credu bod Gerald Corrigan wedi cael ei “dargedu’n fwriadol”.
Maen nhw’n dal i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith.