Mae ymgyrchwyr iaith yn bwriadu lansio eu corff cyfathrebu eu hunain er mwyn rheoleiddio darlledu yng Nghymru.

Daw’r bwriad i greu corff cysgodol, yn lle Ofcom, yn dilyn yr hyn mae Cymdeithas yr Iaith yn ei ystyried yn “gyfres o benderfyniadau dadleuol” gan y rheoleiddiwr sy’n “tanseilio lle Cymru a’r Gymraeg yn y cyfryngau”.

Ymhlith y penderfyniadau hynny, meddai’r ymgyrchwyr, mae diddymu sioeau brecwast Capital oedd yn cael eu darlledu o Gymru, a gadael i Radio Ceredigion ddod i ben.

Bydd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn cael ei lansio mewn cyfarfod gan Gymdeithas yr Iaith yn Hendy-gwyn ar Daf heddiw (dydd Llun, Mehefin 24).

‘Diffyg sylw i Gymru’

“Ar hyn o bryd, mae diffyg sylw difrifol i faterion Cymreig a’r Gymraeg,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith. “Mae’r system bresennol yn fygythiad real i ddemocratiaeth Cymru ac i’r iaith Gymraeg.

“Felly heddiw, rydyn ni’n symud ymlaen â’r broses i unioni’r cam hwnnw. Mae hyn yn golygu diddymu dylanwad Ofcom yng Nghymru a sefydlu’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol.

“Bydd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn creu strwythur rheoleiddio ym maes darlledu a chyfathrebu, yn datblygu polisïau ac yn llunio’r camau sydd rhaid eu cymryd i ddatganoli’r maes yng Nghymru.

“Mae’r Llywodraeth wedi gwrthod ymgymryd â’r gwaith hwn, felly bwrwn ymlaen ein hunain.”