Mae Heddlu’r De wedi arestio dyn 49 oed ar amheuaeth o ddynladdiad dynes 30 oed yn Abertawe.
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Heol Llangyfelach am oddeutu 8.15 neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 23), ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod.
Mae’r dyn yn cael ei holi yn y ddalfa, ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.