Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried adroddiad sy’n argymell cyflwyno polisi tai cymdeithasol newydd a fydd yn blaenoriaethu pobol leol.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y polisi arfaethedig yn cynnig system symlach ar gyfer pobol sy’n awyddus i ymgeisio am dai cymdeithasol.

Bydd y polisi newydd, o gael ei dderbyn, yn gosod tai cymdeithasol yng Ngwynedd yn seiliedig ar ‘fandio’ angen ymgeiswyr, yn hytrach na’r system bresennol o ‘bwyntiau’.

“System newydd a blaengar”

“Mae pobol wedi dweud wrthon ni fod y drefn fel y mae ar hyn o bryd yn gallu bod yn gymhleth ac y dylai mwy gael ei wneud i sicrhau fod tai yn cael eu cynnig i bobol sydd â chysylltiad efo’r gymuned,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd.

“Trwy wrando ar y sylwadau yma, rydan ni’n cynnig cyflwyno system newydd a blaengar a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion pobol gan osod trefn newydd a fydd yn haws i’w deall.

“Bydd y polisi newydd yn rhoi blaenoriaeth i’r ymgeiswyr lle mae’r angen am dai fwyaf ac ymgeiswyr sydd â chysylltiad efo Gwynedd.”

Os bydd y polisi newydd yn cael ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Gwynedd, mae disgwyl i’r drefn newydd gael ei chyflwyno yn yr hydref.