Mae colurwraig o Gymru wedi sôn am yr “hunllef” a brofodd yn gweithio ar yr un ffilm â’r actor enwog, Leonardo DiCaprio.

Siân Grigg o Gaerdydd yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd, ac yn 2016 mi gafodd ei henwebu am Oscar am ei gwaith ar ffilm The Revenant.

Mae’r trafferthion a gododd yn ystod ffilmio’r ffilm honno yn dra hysbys, ac mae Siân Grigg yn esbonio bod y broses wedi bod yn anodd iddi hithau hefyd.

Roedd yna “drwbl ofnadwy” â’r tywydd wrth ffilmio, meddai, bu’n rhaid newid lleoliadau ffilmio sawl gwaith – bu’n gweithio yng Nghanada a’r Ariannin – ac mi dreuliodd “gwpwl o fisoedd” heb dâl.

“[Llyncodd] hynna bron i flwyddyn a hanner o’m mywyd,” meddai wrth golwg360. “A wnes i gael fy nhalu am ddim ond saith mis o hynny! Roedd yn heriol.

“Ond dw i’n siŵr roedd e’n lot gwaeth i’r bobol a fu’n cynllunio’r holl beth. Roedd y gwaith yn heriol, ac mae wastad yn neis cael eich enwebu am rywbeth pan rydych wedi gweithio mor galed.

“Mae’r [atgofion] dal yn chwerw, mae’n rhaid i mi gyfaddef! Doedd e’ ddim mor hir â hynna yn ôl. Ac roedd e’n strach i bawb.

“Roedd yn un o’r swyddi yna lle mae’n teimlo bod popeth yn [cynllwynio] yn eich erbyn chi, ac [yn eich rhwystro] rhag cyflawni’r dasg.”

Er gwaetha’r trafferthion wrth ffilmio, enillodd The Revenant dri Oscar, gan gynnwys gwobr am y gwaith camera (sinematograffeg).

Leonardo DiCaprio a’r arth

Derbyniodd cyfarwyddwr y ffilm, Alejandro G. Iñárritu, Oscar am y ffilm, ac enillodd Leonardo DiCaprio ei Oscar cyntaf am bortreadu’r prif gymeriad.

Gweithiodd Siân Grigg ochr yn ochr ag ef, ac mae’n esbonio pa mor anodd oedd y gwaith – ag yntau’n portreadu cymeriad hanner noeth sy’n sownd yn niffeithwch oer Canada.

“Doedd e’ ddim yn gwisgo dillad,” meddai. “Roedd e’n rhewi. Dydych chi methu poeni am y colur. Mae’n rhaid i chi boeni ambythdi eu dwylo nhw.

“Achos os maen nhw’n cael frost bite neu frost nip mae hwnna’n ddifrifol wael.

“Doedden i ddim yn [medru] poeni ambythdi ei golur e pan oedd e’n rhoi ei ddwylo mewn i sychwr gwallt enfawr er mwyn cynhesu ei ddwylo, a phan oeddwn yn gweld y colur yn dechrau toddi bant!”

Yng ngolygfa enwocaf y ffilm mae arth yn ymosod ar Leonardo DiCaprio.

Bu’n rhaid i  Siân Grigg roi gwaed ar yr actor ar gyfer yr olygfa honno, ond roedd glaw trwm yn rhwystro’r gwaed rhag glynu wrth ei gorff. “Roedd yn hunllef,” meddai’r golurwraig.