Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio ar ôl gwrthdrawiad a cherddwr yn Llandaf, Caerdydd ddoe (dydd Sul, Mai 26).

Cafodd y dyn anafiadau difrifol ar ôl iddo gael ei daro i Afon Taf yn y gwrthdrawiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Heol y Bont, Llandaf am 4.50yp ddydd Sul. Dywed yr heddlu bod y dyn mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Cafodd gyrrwr y car Ford Focus ei arestio ac mae’n cael ei holi gan yr heddlu.

Bu’r ffordd ynghau am bum awr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad i’r gwrthdrawiad.