Mae Plaid Brexit wedi derbyn sêl bendith y Llywydd i sefydlu grŵp yn y Cynulliad.

Daw hyn wedi i bedwar Aelod Cynulliad – Mark Reckless, David Rowlands, Mandy Jones a Caroline Jones – gyhoeddi’r wythnos diwethaf eu bod wedi ymuno â’r blaid.

Cafodd cymeradwyaeth sefydliad y grŵp ei gyhoeddi yn Nhŷ Hywel gan arweinydd y grŵp newydd, Mark Reckless.

Cyn y cyhoeddiad, roedd sïon yn dew bod yna gynllwyn ar droed i rwystro’r pedwar rhag sefydlu’r grŵp.

“Yn dilyn ein gohebiaeth yr wythnos diwethaf, gallaf gadarnhau fy mod yn teimlo bod y grŵp yn bodloni gofynion [Rheolau Sefydlog y Cynulliad],” meddai llythyr gan y Llywydd, Elin Jones.