Bydd Caerdydd yn un o’r dinasoedd yng ngwledydd Prydain a fydd yn derbyn blychau post newydd sy’n gallu derbyn parseli.

Daw’r cam gan y Post Brenhinol yn dilyn cyfnod o dreialu’r llynedd, ac mae’n dynodi’r newid mwyaf yn y defnydd o flychau post mewn 160 o flynyddoedd.

Bydd y blychau post newydd yn galluogi busnesau bach a gwerthwyr eraill i bostio parseli yn yr un ffordd ag y maen nhw’n postio llythyron.

“Mae cyflwyno’r blychau post parsel yn un ffordd o wneud bywydau ein cwsmeriaid yn haws,” meddai llefarydd ar ran y Post Brenhinol.

“Roedd treialu’r blychau’r llynedd yn llwyddiant, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd eu cyflwyno’n ehangach yn rhoi hyblygrwydd i werthwyr ar-lein sy’n gyfrifol am gynnal busnes yn ystod eu horiau sbâr ac sydd ddim yn cadw at oriau swyddfa arferol.”

Bydd y blychau post newydd yn cael eu gosod yng Nghaerdydd a dinasoedd eraill yng ngwledydd Prydain o fis Awst ymlaen.