Mae cyn-arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn apelio ar yr aelodau i gefnogi Plaid Cymru yn yr Etholiad Ewropeaidd.

Daw apêl Grenville Ham, a adawodd y Blaid Werdd fis Hydref y llynedd, ddiwrnod ar ôl i arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, alw ar wrthwynebwyr Brexit o bleidiau eraill i bleidleisio iddyn nhw ar Fai 23.

“Yr unig ffordd o guro Brexit a sicrhau mwyafrif dros ‘Aros’ yw i gefnogi Plaid Cymru,” meddai Grenville Ham sy’n gynghorydd tref yn Aberhonddu.

“Os bydd Gwyrddion a Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi Plaid, gallai ‘Aros’ ennill dwy sedd.

“Fel cyn-aelod a chyn-arweinydd Gwyrddion Cymru, dw i’n gwybod y bydd llawer o fy nghyn-gydweithwyr yn ei chael yn anodd i gefnogi plaid arall, ond dw i’n gofyn wrthyn nhw o waelod calon i fenthyg eu pleidlais i Blaid Cymru gan mai dyna’r unig ffordd o sicrhau mwyafrif dros ‘Aros’.”