Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen ysgol o Landudno a fu farw ar ôl syrthio i’r môr ger y Gogarth Fawr.

Credir bod Dillan Brown, 13, wedi disgyn a tharo ei ben cyn syrthio i’r môr wrth chwarae gyda ffrind ddydd Sadwrn (Mai 4).

Cafodd ei dynnu o’r dŵr gan wylwyr y glannau yn Ogof y Colomennod ym Mhen y Gogarth toc wedi 9.20yh nos Sadwrn.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor ond bu farw’n ddiweddarach.

Roedd Dillan Brown yn ddisgybl yn Ysgol John Bright.

Fe ddigwyddodd wrth i’r dref gynnal y Strafagansa Fictoraidd yn y dref.

Mewn datganiad, dywedodd ffrind i’r teulu Samuel Williams bod Dillan Brown yn fachgen “hapus a chwrtais a oedd yn caru ei YouTube ac Xbox.”

Ychwanegodd: “Ar ran ei fam, ei frodyr a chwiorydd hoffwn ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a’u gweithredoedd yn ystod y sefyllfa drasig yma.”

Mae ymdrech i godi arian i dalu am gostau ei angladd a chefnogi’r teulu wedi cael ei lansio ac fe fydd cyngerdd i gofio am Dillan Brown yn cael ei chynnal ar Fai 24, meddai Samuel Williams.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd nad ydyn nhw’n credu bod amgylchiadau ei farwolaeth yn amheus.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.