Doedd dim meddyg teulu ar gael y tu allan i oriau gwaith yng ngorllewin Cymru ar 125 o wahanol gyfnodau’r llynedd, yn ôl ffigyrau.

Mae’r ffigwr hwn dair gwaith yn fwy na’r 42 achos a gafodd eu cofnodi gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn 2017.

Daw wrth i adroddiad yng nghylchgrawn Pulse nodi nad oedd gan chwe rhanbarth yng Nghymru a Lloegr feddygon teulu i ddarparu gwasanaeth gofal y tu allan i oriau o leiaf unwaith y llynedd.

Mae nifer yr achosion wedi cynyddu o 57 yn 2017, gyda’r cynnydd yn bennaf oherwydd yr hyn a gofnodwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, sy’n gwasanaethu 384,000 o gleifion.

“Mae hon yn duedd gyffredin ymhlith byrddau iechyd ac rydyn ni’n gweithio â’n gilydd ar draws gwahanol wasanaethau i gynnig mynediad i ofal y tu allan i oriau,” meddai Joe Teape, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

“Mae uwch-ymarferwyr nyrsio yn cefnogi gweithgareddau y tu allan i oriau mewn rhannau o’r rhanbarth ac mae’r gwasanaeth wedi cydweithio â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflwyno uwch-barafeddygon i gefnogi meddygon teulu.”