Mae tad y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi marw, a hynny bedwar mis wedi i’w fab gael ei ladd mewn damwain awyren.

Bu farw Horacio Sala ar ôl cael trawiad y galon fore heddiw (Dydd Gwener, Ebrill 26) yn ei gartref yn Progreso yn yr Ariannin.

Daw ei farwolaeth bedwar mis ers iddo golli ei fab 28 oed, a gafodd ei ladd ar ôl i’r awyren oedd yn ei gludo i Gaerdydd ym mis Ionawr blymio i’r môr.

Roedd clwb y brifddinas wedi cytuno i brynu’r ymosodwr am £15 miliwn gan Nantes.

Ond ni chyrhaeddodd y chwaraewr Gymru, ac wedi’r golled bu Horacia Sala yn trafod ei alar ar Argentine TV.

“Alla i ddim coelio’r peth,” meddai bryd hynny.  “Breuddwyd yw hyn. Breuddwyd cas. Rwyf yn anobeithiol.”