Os caiff Cymru ei “thynnu” o’r Undeb Ewropeaidd heb ail refferendwm Brexit, dylai bod ganddi’r hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth.

Dyna farn arweinydd Plaid Cymru ac aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price.

Mae’n dadlau na fydd “anrhefn” Brexit yn mynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu pobol Cymru, ac mae’n ffyddiog mai annibyniaeth yw’r ateb.

“Os ydy Cymru yn cael ei dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd heb Bleidlais y Bobol, mi ddylai gynnal refferendwm ei hun tros annibyniaeth,” meddai.

“Yn sgil y fath newid gyfansoddiadol, rhaid i bobol Cymru gael yr hawl i ddewis dyfodol eu hunain.

“Gallwn ddewis dyfodol disgleiriach, yn wlad annibynnol wrth galon Ewrop. Neu mi allwn ddewis bod yn rhanbarth israddol mewn gwladwriaeth Brydeinig fethedig.”

Yr Alban

Daw ei sylwadau wedi i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ddweud ei bod eisiau refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban cyn 2021 os bydd Brexit yn mynd rhagddo.

“Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth yr Alban yn gweithredu er mwyn sicrhau bod yr opsiwn o roi dewis i bobol ar annibyniaeth yn mynd rhagddo’n ddiweddarach yn y tymor seneddol hwn,” meddai ddydd Mercher (Ebrill 24).