Mae dau weithiwr wedi’u hanafu yn dilyn ffrwydrad a thanau yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle tua 3.35yb y bore ma (dydd Gwener, 26 Ebrill) yn dilyn cyfres o alwadau 999.

Yn ôl pobl leol, roedd y tai cyfagos yn ysgwyd oherwydd y ffrwydradau grymus.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dau o bobl wedi cael man anafiadau yn y digwyddiad ac maen nhw wedi cynghori pobl leol i osgoi’r ardal.

Mae ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu bod y ffrwydradau wedi’u hachosi gan drên yn cario metel tawdd i’r safle, meddai’r heddlu.

Roedd y ffrwydrad wedi achosi tanau bach sydd bellach dan reolaeth. Mae difrod wedi bod i rai adeiladau ar y safle. Yn ôl yr heddlu mae traffordd yr M4 wedi parhau ar agor.

Dywedodd Tata bod eu staff yn cydweithio gyda’r gwasanaethau brys ar y safle.

“Gallwn gadarnhau nad oes anafiadau difrifol a bod y tanau bellach dan reolaeth,” meddai’r cwmni.

Wrth ymateb i’r digwyddiad ar Twitter dywedodd Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock bod y digwyddiad “wedi codi pryderon ynglŷn â diogelwch y gweithfeydd.”

Ychwanegodd: “Fe allai fod wedi bod yn llawer gwaeth” gan ddiolch i’r gwasanaethau brys am eu hymateb prydlon. Mae wedi galw ar Tata i gynnal adolygiad llawn i wella diogelwch.