Mae disgynnydd o Gapel Celyn, y cwm amaethyddol a foddwyd gan Lywodraeth San Steffan i greu cronfa ddŵr i Lerpwl, yn diolch i’r grŵp o bobol ifanc sydd wedi bod yn trwsio’r wal yn Llanrhystud, Ceredigion.

Mae Cynghorydd Plaid Cymru, Elwyn Edwards, Llandderfel ger Y Bala eisiau canmol y bobl ifanc sydd wedi bod draw i’r safle yn Llanrhystud, rhwng Aberaeron ac Aberystwyth, ddwywaith i adfer y geiriau symbolaidd ‘Cofiwch Dryweryn’ ac atgyweirio’r wal.

“Mae gweithredoedd y bobol ifanc yma’n ysbrydoliaeth i ni gyd, boed yn Gymry ai peidio, i ddiogelu’r etifeddiaeth hanesyddol bwysig hon draw yng Ngheredigion,” meddai Elwyn Edwards.

“Mae’n symbol cenedlaethol, yn gipolwg ar ein gorffennol ac yn ein hatgoffa o’n dyfodol, dyfodol lle gall Cymru ddod yn genedl annibynnol a llywodraethu’n annibynnol, gan sicrhau na chaiff unrhyw gymuned mewn unrhyw ddyffryn arall yng Nghymru fyth ei cholli eto.”

Teulu Capel Celyn

Roedd teulu Elwyn Edwards yn byw yng Nghapel Celyn yn y 1950au ac mae’n cofio mynd ar y daith i Lerpwl yn 13 oed i brotestio am gynlluniau’r boddi.

Roedd teulu ei fam wedi byw yn y cwm am ganrifoedd ac mae’n cofio pysgota a chwarae gyda’i gefndryd ar y fferm deuluol. Collodd teulu ei fam bopeth pan foddwyd yr ardal.

“Mi gafodd boddi Capel Celyn effaith fawr arna i, a llawer o rai eraill.” meddai. “Does gan y genhedlaeth hon o bobol ifanc yr un atgof o’r weithred, ond mae effaith boddi Capel Celyn wedi ei saernïo yng nghof teidiau a neiniau a rhieni’r bobol ifanc yma – mae yn graith ar gof y genedl.

“Doedd dim byd ar ôl – yr un goeden, gwrych, yr un ddafad, buwch a dim un aderyn yn canu hyd yn oed. Roedd y lle yn llethol dawel, yn union fel diwrnod angladd. Mi gariwyd cerrig y capel, yr holl dai, y ffermydd, yr ysgol a’r siop i adeiladu’r argae…

“Dw i’n cofio’r dŵr yn llifo dros y fowlen orlif yn yr argae hyd nes ei fod yn saethu am tua 100 troedfedd i fyny i’r awyr.

“Cafodd fy nheulu a’r teuluoedd eraill eu hailgartrefu, ond fe’u gwasgarwyd ar hyd a lled y lle. Fe gollon ni ein treftadaeth; fe gollwyd popeth.”

Cofiwch

Mae gweithred symbolaidd y diweddar Meic Stephens i beintio’r neges ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud bellach yn ymledu’n gyflym ledled Cymru. Ac mae Elwyn Edwards yn credu bod ail-gynnau’r diddordeb yn hanes y genedl Gymraeg a Chymreig, yn beth da.

“Dw i’n mawr obeithio nad yw’r weithred o fandaleiddio’r wal yn un wleidyddol,” meddai. “Mae wedi digwydd yn dilyn llwyddiant Plaid Cymru i ennill sedd Ceredigion yn Etholiad San Steffan 2017.

“Ond mae gweithred y gwladgarwyr ifanc yma sy’n dod o sawl rhan o Gymru i ail-adeiladu’r wal a’i pheintio eto yn gatalydd i eraill ail-gyflwyno’r stori sydd wedi creithio Cymru.

“Diolch i bob un sydd wedi bachu ar y cyfle i atgoffa trigolion Cymru na ddylai unrhyw Dryweryn arall fyth ddigwydd eto.”