Mae dau ddyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl i gar daro coeden rhwng Aberdâr ac Aberpennar.

Cafodd dau ddyn arall eu hanafu yn y digwyddiad ar ffordd A4059 toc ar ôl canol nos (Ebrill 14).

Daeth Toyota Yaris oddi ar y ffordd.

Cafodd y pedwar dyn eu cludo i ysbytai yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.