Mae’r arlunydd a’r dyn cyfathrebu Wynne Melville Jones yn dweud bod rhaid diogelu wal Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud, ar ôl i ran ohoni gael ei chwalu dros nos.

Mae’r wal wedi cael cryn sylw yn ddiweddar, yn dilyn sawl enghraifft o fandaleiddio ac ail-baentio tros yr wythnosau diwethaf.

Bellach, mae rhan ucha’r wal wedi’i chwalu’n llwyr ac mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio.

“Rwy am roi sicrwydd ein bod ni’n trin y digwyddiad yn ddifrifol, ac y byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn i’r difrod di-feddwl,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

‘Rhaid diogelu’r wal’

“Mae cyflwr y wal yn ddrwg ers blynyddoedd,” meddai Wynne Melville Jones wrth golwg360. “Mae yna ddŵr wedi mynd i mewn, ac mae yna bryder wedi bod am ba hyd y bydd y wal yn para beth bynnag.

“Bues i’n rhan o drafodaethau flynyddoedd yn ôl ynglŷn â diogelu wal Tryweryn, a dyna oedd y gofid penna’ yr adeg yna, fod cyflwr y wal wedi dirywio cymaint ac y byddai hi’n debyg o gwympo rywbryd.

“Dw i ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd fan hyn, ond mae’n bosib fod rhywun wedi chwalu pen ucha’r wal yn fwriadol. Ond mae yna broblem gyda’i chyflwr, a dyna un o’r prif resymau pam fod angen ei diogelu hi.”

Trafodaethau

Mae Wynne Melville Jones yn dweud bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gorffennol, a’u bod wedi dangos “cryn dipyn o ddiddordeb yr adeg honno”.

“Mae’r mater wedi cael ei drafod gan y cyngor cymuned lleol a, fel dw i’n deall, mae yna drafodaethau wedi bod gyda Cadw yn fwy diweddar, a bod Cadw erbyn hyn yn dangos diddordeb mewn diogelu’r wal.

“Yn y pen draw, beth sydd yn bwysig yw fod y slogan yn dal yna, a dw i’n credu bod rhaid derbyn, oherwydd natur y peth a’r ffaith mai graffiti yw e, y bydd pethau’n cael eu hychwanegu at y wal bob hyn a hyn.”

‘Neges sy’n atgoffa’r cydwybod’

Mae’n rhannu’r farn ar Twitter fod perygl y bydd mwy o ddigwyddiadau tebyg po fwyaf o sylw a gaiff y wal.

“Ond mae miloedd o bobol yn gweld y wal bob dydd, bob wythnos, bob mis. Ry’n ni’n siarad am nifer fawr iawn o bobol yn ei gweld, a rhai yn ei gweld yn gyson.

“Mae’r neges yna yn atgoffa’r cydwybod o’r hyn ddigwyddodd a phwysigrwydd Tryweryn, felly mae’n bwysig iawn fod y slogan yn dal yna.”

Cefndir

Fe gafodd ei phaentio gynta’ yn y 60au gan y bardd a’r awdur, Meic Stephens, ar ôl boddi pentre’ Capel Celyn ac mae wedi dod yn nodwedd adnabyddus iawn ar y ffordd fawr rhwng Aberystwyth ac Aberaeron.

Daw ei sylwadau wrth i Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad yn dilyn sawl digwyddiad ger y gofeb yn ddiweddar.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod yn deall y pryderon lleol ac chenedlaethol.

Ynghynt yr wythnos hon, roedd rhywun wedi amharu ar y graffiti ond roedd wedi ei hailbaentio ar unwaith.

Ynghynt eleni, roedd rhywrai wedi paenti enw Elvis tros y geiriau gwreiddiol ond fe gafodd ‘Cofiwch Dryweryn’ ei adfer y tro hwnnw hefyd.