Nid oedd y cyn-weinidog Cabinet Peter Hain heb dorri rheolau seneddol ar ôl iddo enwi Syr Philip Green fel y dyn busnes oedd wedi ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol tuag at staff, yn ol adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw.

Roedd yr Arglwydd Hain wedi defnyddio braint seneddol i enwi Philip Green ym mis Hydref y llynedd. Roedd gwaharddiad llys yn atal y Daily Telegraph rhag enwi’r dyn busnes mewn cysylltiad â honiadau o aflonyddu rhywiol a cham-drin hiliol.

Yn ôl cyfreithwyr Syr Philip Green, doedd yr Arglwydd Hain ddim wedi datgan fod ganddo berthynas ariannol â chwmni cyfreithwyr Ince Gordon Dadds a oedd yn cynrycchioli’r Daily Telegraph, yn yr achos.

Ond dywedodd y cyn-Aelod Seneddol dros Gastell-nedd nad oedd yn ymwybodol o’r cysylltiad rhyngddyn nhw. Dywedodd Peter Hain ei fod wedi cyhoeddi enw Philip Green yn dilyn “ystyriaeth foesegol” ar ôl cwrdd ag un o’r dioddefwyr honedig.

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Ebrill 8) dywedodd Comisiynydd Safonau’r Arglwyddi Lucy Scott-Moncrieff ei bod hi’n derbyn esboniad Peter Hain nad oedd yn ymwybodol o’r cysylltiad.