Mae 35 o bobl adnabyddus yng Nghymru yn galw ar Gyngor Caerdydd i sicrhau mai dim ond ysgolion cyfrwng Cymraeg fydd yn cael eu hagor ar draws y ddinas yn y dyfodol.

Ymhlith y rhai  sydd wedi llofnodi llythyr at y cyngor mae’r cerddor Cian Ciaran o’r Super Furry Animals, yr actores Mali Harries, y prifardd Catrin Dafydd, y gantores Heather Jones a’r awdur Jon Gower.

Yn y llythyr maen nhw’n dadlau bod angen i Gaerdydd fod ar flaen y gad er mwyn gweld cynnydd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael er mwyn agosáu at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 “Rôl allweddol”

“Er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n hanfodol bod cynghorau sir yn cynyddu eu darpariaeth o addysg Gymraeg nawr,” meddai’r llythyr.

“Fel dinas fwyaf Cymru, mae gan Gaerdydd rôl allweddol i’w chwarae os ydym am gyrraedd y nod.”

Mae’r llythyr hefyd yn nodi sut mae darpariaeth addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn “hollol annigonol” ar hyn o bryd gyda mwy a mwy o rieni o bob cefndir yn dymuno gweld eu plant yn gallu siarad Cymraeg.

“Mae rhai o’r plant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at ein hiaith a’r holl gyfleoedd mae hi’n ei chynnig oherwydd ddiffyg darpariaeth,” meddai’r llythyr.

Miliwn o siaradwyr

Mae Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith hefyd yn ategu’r honiad fod gan Gaerdydd rôl ganolog i’w chwarae os am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Yn anffodus, ar hyn o bryd, nid yw’r twf mewn addysg Gymraeg yn y ddinas yn ddigonol i fodloni’r galw mawr sydd am lefydd mewn ysgolion Cymraeg, na chwaith i Gaerdydd gyrraedd y targedau lleol ar y daith tuag at 2050,” meddai Mabli Siriol.

“Galwn ar Gyngor Caerdydd i ddangos yr uchelgais a’r arweiniad sydd ei angen er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn ein prifddinas ac arwain y ffordd tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg.”

“Adlewyrchu’r galw”

 Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: “Bydd ein capasiti cyfrwng Cymraeg yn parhau i gynyddu i adlewyrchu’r galw cyffredinol, gan sicrhau sefydlogrwydd ariannol ein hysgolion cyfrwng Cymraeg presennol a fyddai mewn perygl os byddwn yn gosod llefydd ychwanegol yn rhy gyflym.

“Trwy gynyddu ein haddysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd strategol, rydym yn sicrhau bod ein hysgolion newydd ar sylfaen ariannol gadarn; mae ein hysgolion cyfrwng Cymraeg presennol yn parhau i fyw; a bod yr ysgolion a gynigiwn yn darparu ar gyfer yr ystod o ddewisiadau rhieni a welwn yng Nghaerdydd.

“Mae rhagamcanion yn awgrymu cynnydd calonogol iawn yn y galw am ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf.

“Ar hyn o bryd mae gennym ddigon o gapasiti yn ein hysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, ac mae llefydd ar gael o hyd. Yn y tymor byr i ganolig, gellir cwrdd â’r galw cynyddol a ragwelir trwy gynyddu lleoliadau gan ddefnyddio’r capasiti yn ein tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg bresennol.”