Mae ymgyrchwyr iaith yn cyhuddo’r cwmni sy’n gyfrifol am filoedd o hen dai cyngor yng Ngwynedd o dorri ei Gynllun Iaith, drwy beidio â gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer swydd uchel.

Cododd ffrae wedi i Gartrefi Cymunedol Gwynedd, sy’n gyfrifol am dros 6,300 o dai rhent yng Ngwynedd, hysbysebu nad oes rhaid i’r Dirprwy Brif Weithredwr newydd fedru’r Gymraeg.

Yn ei Gynllun Iaith, mae Cartrefi Cymuned Gwynedd (CCG) yn addo:

‘Gyda mwyafrif llethol y staff yn ddwyieithog, iaith weithredu fewnol CCG yw Cymraeg ac fe’i siaredir fel norm. Anogir i bob memorandwm, e-bost a chofnodion mewnol fod yn ddwyieithog…

‘Er mwyn cwrdd â’n nod o drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal byddwn yn sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hyd at safon sy’n briodol i ddibenion y swydd, ar ôl cynnal asesiad sgiliau iaith ar holl swyddi o fewn y sefydliad.’

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi torri’r Cynllun Iaith drwy hysbysebu am Ddirprwy Brif Weithredwr heb yr angen i siarad Cymraeg.

Bu i hysbyseb y swydd ennyn beirniadaeth lem gan ymgyrchwyr a gwleidyddion lleol, gydag Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllïan, yn dweud bod hepgor y Gymraeg o’r gofynion iaith yn “annerbyniol” ac mae hi wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.

Ond yn ôl Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, mae angen bod yn “ofalus” wrth wahaniaethu yn erbyn pobol o ran iaith.

Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi amddiffyn yr hysbyseb, gan ddweud nad yw’n “gwanio’r iaith”.

‘Mae angen ymchwiliad’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i gynnal ymchwiliad, wrth iddyn nhw gyhuddo Cartrefi Cymunedol Gwynedd o fynd yn groes i’w Cynllun Iaith– cynllun a gafodd ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg fis yn ôl.

Yn ôl polisi iaith Cartrefi Cymunedol Gwynedd ynglŷn â staffio a recriwtio, mae yn ofynnol i’r cwmni’n weithredu’n ddwyieithog, gyda phob aelod o staff yn medru cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

“Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn un o’r sefydliadau prin sy’n gweithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf,” meddai Manon Elin, Is-Gadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith.

“Os yw’r Gymraeg i ffynnu, mae angen mwy o sefydliadau o’r fath, nid llai. Byddai penodi rhywun di-Gymraeg i’r swydd yn tanseilio statws y Gymraeg fel iaith weinyddol y sefydliad yn sylweddol.

“Yn fwy cyffredinol, mae gan Lywodraeth Cymru record wael iawn pan ddaw hi at gynyddu defnydd mewnol y Gymraeg o fewn y gwasanaeth sifil a chyrff cyhoeddus eraill.

“Mae creu a chynnal swyddi Cymraeg, a sicrhau bod rhagor o sefydliadau yn gweithio drwy’r iaith, yn hanfodol os yw’r Llywodraeth o ddifrif am gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg.”

 “Ehangu y tu hwnt i’r fro Gymraeg”

Mewn datganiad, dywed Cartrefi Cymunedol Gwynedd y bydd swydd y Dirprwy Brif Weithredwr  yn cefnogi cynllun sy’n cynnwys “adeiladu cannoedd o dai cymdeithasol newydd ar draws y Gogledd a thu hwnt”.

Golyga hyn, medden nhw, fod y cwmni yn “ehangu y tu hwnt i’r fro Gymraeg”, a bod angen cynllun iaith “sy’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng ystyriaethau hyfywedd busnes ac ystyriaethau ieithyddol.”

“Rydym fel cwmni yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol ac felly mae angen yr hyblygrwydd hwn er mwyn ein galluogi ni i gynnal asesiad ieithyddol ar gyfer ein swyddi,” meddai llefarydd ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

“Pwysleisiwn nad gwanio’r iaith yw hyn, ond mater o roi hyblygrwydd ar gyfer sicrhau hyfywedd y busnes i’r dyfodol.

“Cadarnhawn y bydd pob swydd Cymraeg hanfodol o fewn y cwmni’n parhau felly i’r dyfodol.”

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg

“Fe wnaethom gymeradwyo Cynllun Iaith Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn gynharach eleni,” meddai llefarydd.

“Mae’r Cynllun yn nodi y bydd pob swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol ar hyn o bryd yn parhau i fod yn hanfodol pan ddaw’r swydd yn wag, ac y bydd angen iddyn nhw wneud asesiad o ofynion iaith unrhyw swydd newydd.

“Nid ydym wedi trafod unrhyw swyddi penodol gyda Chartrefi Cymunedol Gwynedd.”