Mae’r Blaid Lafur wedi llwyddo i gadw sedd Gorllewin Casnewydd yn San Steffan, wedi i Ruth Jones ddod i’r brig mewn isetholiad a gafodd ei alw yn dilyn marwolaeth Paul Flynn.

Fe sicrhaodd y Blaid Lafur 9,308 o bleidleisiau, sef mwyafrif o 1,951 dros ymgeisydd y Ceidwadwyr, Matthew Evans (7,357).

Mae’r mwyafrif hwn tipyn yn llai na’r 5,658 a oedd gan y diweddar Paul Flynn ers yr etholiad cyffredinol yn 2017.

Fe lwyddodd Neil Hamilton o UKIP i gyrraedd y drydydd safle, wrth i’r blaid weld cynnydd yn ei chefnogaeth ers 2017 gyda 2,023 o bleidleisiau.

‘Llond bol o lymder’

Wrth dalu teyrnged i’w rhagflaenydd, a fu farw yn 84 oed ar Chwefror 17, fe ddywedodd Ruth Jones fod clywed am adnabyddiaeth pobol leol o Paul Flynn wedi bod yn “ysbrydoliaeth” iddi yn ystod yr ymgyrch.

“Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf,” meddai.

“Ond yr hyn dw i’n gwybod yw bod pobol wedi cael llond bol yn dilyn degawd o lymder.”

Roedd nifer y pleidleiswyr ar y diwrnod yn 37.1%, sy’n lleihad o gryn dipyn o’r 67.5% a welwyd yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf.