Mae cyn-Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn crefu ar Aelodau Seneddol i gefnogi cytundeb ymadael y Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Yn ôl y Brexitiwr brwd a’r Aelod Cynulliad Andrew RT Davies, mae gan Aelodau Seneddol gyfle heddiw i gefnogi Theresa May a sicrhau bod gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus ar Fai 22.

Rhoi sêl bendith i gytundeb ymadael y Prif Weinidog yw’r unig ffordd o sicrhau bod Brexit yn digwydd, meddai.

“Daeth yr amser i Aelodau Seneddol gael y maen i’r wal, ac yn hytrach na mwynhau sylw’r camerâu teledu a’r pymtheng munud o enwogrwydd, cefnogwch y cytundeb wir.

“Ni fyddai’r Blaid Lafur yn newid yr un gair o’r cytundeb ymadael, ac eto fe fyddai yn well ganddyn nhw chwarae politics gyda dymuniadau 17.4 miliwn o bobol er mwyn ein hatal rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Yn hytrach na bachu ar y cyfleon sydd o’n blaenau, mae rhai Aelodau Seneddol yn dewis ymladd hen frwydrau, a thrwy wneud hynny maen nhw yn amharchu canlyniad refferendwm Mehefin 2016.”