Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i yrrwr beic modur farw mewn gwrthdrawiad ger Aberhonddu bore ma (dydd Sul, Mawrth 24).

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ar ffordd yr A4067 rhwng Pen y Cae a chronfa ddŵr Crai toc cyn 11 bore ma.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle. Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth. Dim ond un cerbyd oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Mae’r ffordd ynghau wrth i’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad ffonio’r heddlu ar 101.