Mae Llys y Goron Casnewydd wedi clywed sut y gwnaeth pêl-droediwr ddefnyddio ei gar i daro cefnogwyr ifanc a fu’n ei boenydio yn ystod gêm ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Lee Taylor, 36, wedi ei gyhuddo o ddefnyddio ei BMW “fel arf” yn ystod y digwyddiad, lle cafodd 11 o bobol ifanc – rhai ohonyn nhw yn 14 oed – eu hanafu.

Bu’r digwyddiad ym maes parcio clwb pêl-droed Corneli ger Stryd y Ddôl ar Ebrill 19 y llynedd.

Mae’r erlyniad yn honni fod Lee Taylor, a oedd yn chwarae yn erbyn Clwb Pêl-droed Margam, wedi ffraeo â grŵp o fechgyn ifanc ar ôl gadael yr ystafell newid.

Honnir ei fod wedi bygwth un aelod, cyn mofyn ei BMW llwyd a gyrru tuag at y bachgen a’i ffrindiau.

Ychwanegodd yr erlynydd fod rhai o’r bechgyn wedi cael eu taflu i’r awyr wrth i’r cerbyd eu taro, a’i bod hi’n “lwc aruthrol” na chafodd neb eu hanafu’n ddifrifol.

Mae Lee Taylor, sy’n dod o Bort Talbot, wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, sy’n cynnwys gyrru’n beryglus, 11 achos o beri niwed corfforol difrifol yn fwriadol, ac 11 achos amrywiol o ymosod.

Mae’r achos llys yn parhau.