Mae grŵp gwirfoddol wedi mynegi eu pryder wrth i Gyngor Ceredigion argymell toriadau o 68% i wasanaeth cerdd y sir.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Ceredigion yn cynnal tîm o athrawon a thiwtoriaid cerdd teithiol sy’n cynnig gwersi offerynnol ym mhob un o’r 46 ysgol yn y sir.

Mae eu gweithgarwch hefyd yn cynnwys trefnu bandiau, corau a cherddorfeydd ar gyfer dros 1,200 o ddisgyblion ledled Ceredigion.

Ond mae argymhelliad i dorri cyllideb y Gwasanaeth Cerdd o dros ddau draean yn debygol o fod yn “ergyd farwol”, meddai Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion.

Maen nhw hefyd yn pryderu y bydd toriadau o’r fath yn troi cerddoriaeth yn “beth elitaidd” o fewn y sir, wrth i rieni orfod talu “llawer mwy” am gadw unrhyw fath o wasanaeth cerdd i fynd.

“Rhaid ailfeddwl”

“Mae’n anochel y bydd toriadau o’r maint yma, ar ben y toriadau staff a chyllid a gafwyd y llynedd, yn golygu diswyddiadau o fewn y tîm bychan o diwtoriaid ymroddedig sy’n gweithio mor galed i roi cyfleoedd i blant yr ardal, a hynny’n aml ymhell y tu hwnt i’r oriau gwaith disgwyliedig,” meddai Angharad Fychan, ysgrifennydd y grŵp.

“Y gofid ydy y gofynnir i rieni dalu llawer mwy er mwyn cadw unrhyw fath o wasanaeth cerdd i fynd. Mae perygl gwirioneddol y bydd cynlluniau Ceredigion yn troi cerddoriaeth yn beth elitaidd, sy’n mynd yn gwbl groes i’n gwerthoedd a’n traddodiadau ni yng Nghymru.

“Rhaid i Gyngor Sir Ceredigion ailfeddwl, er lles y mil a rhagor o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi ar hyn o bryd, ac er budd cenedlaethau’r dyfodol. Os collir y gwasanaeth hwn nawr er mwyn arbed arian yn y tymor byr, bydd yn gwbl amhosibl ei ailadeiladu yn y dyfodol.”

“Anghywir a chamarweiniol”

Mae Cyngor Ceredigion yn wynebu gwneud arbedion gwerth £6m yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

“Mae’n destun gofid bod adroddiadau anghywir a chamarweiniol wedi’u cyhoeddi mewn perthynas â’r adolygiad o’r Gwasanaeth Cerdd cyn i unrhyw gynigion neu drafodaethau ystyrlon gael eu cynnal,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion.

“Mae’r Cyngor yn edrych yn ofalus iawn ar y model darparu i weld a ellir gwneud arbedion heb gyfaddawdu ar yr ansawdd. Nid yw’n fwriad gan y Cyngor i ddod â’r gwasanaeth i ben, fel yr awgrymir gan nifer.

“Y dyhead yw cynnal y ddarpariaeth a’r cyfleoedd perfformio ac ar yr un pryd lleihau gorbenion a sicrhau gwell gwerth am arian, fel gyda phob gwasanaeth arall ar draws y Cyngor.”