Mae canllaw newydd wedi cael ei gyhoeddi gan Gomisiynydd Pobol Hŷn Cymru i helpu pobol sy’n symud i fyw i gartrefi gofal.

Mae’n cynnwys cyngor am eu hawliau, ac yn rhoi gwybodaeth gyffredinol ar ystod eang o bynciau – dod o hyd i lety addas, talu am ofal, gwneud penderfyniadau, gweithgareddau a chymdeithasu a lleisio barn am ofal anfoddhaol.

Mae’r canllaw wedi’i lunio ar ôl ymgynghori â phobol hŷn a darparwyr gofal ledled Cymru.

Mae mwy na 6,000 o gopïau wedi cael eu rhoi i awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector, gan gynnwys Age Cymru, Cymdeithas Alzheimer ac RNIB Cymru.

Mae’r canllaw hefyd ar gael i’w lawrlwytho oddi ar y we.

‘Grymuso pobol’

“Rwyf wedi parhau i fonitro a chraffu ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni ar yr ymrwymiadau a wnaed yn dilyn yr adolygiad a wnaeth fy swyddfa i ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, yn ogystal â pharhau i ymgysylltu â darparwyr gofal ledled Cymru,” meddai Helena Herklots, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru.

“Ond ochr yn ochr â’r gwaith pwysig hwn, roeddwn hefyd am rymuso pobl hŷn a’u teuluoedd drwy ddarparu’r wybodaeth maen nhw am ei chael, ac angen ei chael, wrth symud i fyw mewn cartref gofal.

“Dyna pam rwyf wedi cyhoeddi’r canllaw newydd ar gartrefi gofal, i gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd ar adeg sy’n gallu bod yn anodd.”