Mae teyrngedau wedi’u rhoi i “ŵr gwych” a fu farw mewn tân yng Nghwm Tawe.

Yn dilyn tân mewn garej yn Rhos, Pontardawe, cafodd Mark Logan, 31, ei ddarganfod gan yr heddlu am dri’r bore, dydd Sul (Mawrth 10).

Dyw’r heddlu ddim yn credu bod amodau’r tân yn amheus. Roedd y gŵr yn hanu o Odre’r Graig, a bellach mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo.

“Mae’r drasiedi yma wedi torri ein calonnau ni fel teulu,” meddai ei wraig Kirsty Logan.

“Gallaf ddweud cymaint am ba mor hyfryd oedd Mark. Roedd e’n ŵr gwych, ac yn ffrind gorau i mi. Ni allaf ddweud faint rwy’n ei garu.

“Roedd yn dad i ddau fab a oedd yn ei addoli, ac yn hoff ohono. Byddwn yn edrych yn ôl ar ein hatgofion ohono â hoffter. Bydd ef yn ein calonnau am byth.”