Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i’r gwasanaethau brys ddod o hyd i gorff dyn yn dilyn tân mewn garej yn Rhos ger Pontardawe.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 3 o’r gloch fore ddoe (dydd Sul, Mawrth 10).

Daethon nhw o hyd i gorff y dyn, ac mae ymchwiliad ar y gweill i’r hyn oedd wedi achosi’r tân a marwolaeth y dyn.

Apêl

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth gan dystion oedd yn yr ardal rhwng 12.15yb a 2.30yb.

Maen nhw’n awyddus i siarad â thri dyn oedd wedi dychwelyd i bentref Rhos mewn tacsi ar ôl bod yng Nghaerdydd.

Roedden nhw wedi cael eu casglu o ganol y brifddinas, o bosib y tu allan i westy’r Hilton.

Does gan yr heddlu ddim esboniad ar gyfer marwolaeth y dyn ar hyn o bryd.