Cymru fydd y wlad gyntaf yng ngwledydd Prydain i gyhoeddi cofrestr o feddygon locwm, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Y gobaith yw y byddai’r gofrestr, a fydd yn cael ei gweithredu o fis Ebrill ymlaen, yn cael ei defnyddio gan feddygfeydd a byrddau iechyd fel y cam cyntaf yn y broses o recriwtio meddygon locwm.

Fe fydd hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall mwy am y farchnad meddygon locwm, sydd ar gynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, medden nhw.

Partneriaeth Cydwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fydd yn rheoli’r gofrestr.

“Yn ystod y tri mis cyntaf pan fydd y gofrestr ar waith, byddwn ni’n mynd ati gyda’n rhanddeiliaid i ddatblygu’r telerau gweithio,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Dros gyfnod o amser, rydyn ni’n bwriadu gweithio gyda meddygon locwm sydd ar y gofrestr i lunio cynnig a fydd yn eu helpu i wireddu eu dyheadau ehangach o ran eu gyrfa ac yn diwallu eu hanghenion datblygu.”