Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor.

Mae hyn yn golygu y bydd eiddo arferol ym mand D yn gorfod talu £58.57 yn ychwanegol.

Daw’r cynnydd wrth i nifer o gynghorau sir ledled Cymru wynebu lleihad yn y grant y maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin, maen nhw’n bwriadu gwario tua £564m y flwyddyn nesaf “ar ddarparu gwasanaethau i breswylwyr a busnesau”, ynghyd â £105m yn fwy ar brosiectau i “adfywio’r economi a darparu tai fforddiadwy”.

Mae’r Dreth Gyngor yn cyfrannu tua £91m tuag at gyllideb yr awdurdod lleol, sef 16% yn unig o gyfanswm y gwariant. Daw’r £473m sy’n weddill yn bennaf o grantiau Llywodraeth Cymru, ynghyd â grantiau a ffioedd.

“Mae’r Dreth Gyngor yn cyfrannu ychydig dros 16% at gyllideb flynyddol £564m y cyngor, sy’n ein helpu i dalu am wasanaethau hanfodol megis addysg, tai a gofal cymdeithasol,” meddai’r Cynghorydd David Jenkins, aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am Adnoddau.