Mae dyn wnaeth drywanu cwpl i farwolaeth yng nghanol Caerdydd, wedi gollwng apêl i ddileu’r euogfarn yn ei erbyn.

Cafodd Andrew Saunders, sy’n 21 oed, ei ddedfrydu i oes dan glo – sef o leiaf o 23 mlynedd yn y carchar – yn 2017 ar ôl cyfaddef iddo ladd Zoe Morgan, 21 oed, a Lee Simmons, 33 oed.

Lladdwyd y ddau tu allan i siop Matalan ar Heol y Frenhines, ble’r oeddynt yn gweithio, ar Fedi 28, 2016.

Roedd yr apêl, a gafodd ei lansio’r llynedd, yn ceisio dadlau bod iechyd meddwl Andrew Saunders yn rheswm i’w esgusodi.

Bu i Andrew Saunders, o Castleton ger Casnewydd, brynu cyllyll a menig yn y dyddiau’n arwain at y llofruddiaeth.

Hefyd roedd o wedi edrych ar “y ffordd hawsaf i ladd person” ac “am faint o hir mae llofruddwyr yn y carchar” ar wefan chwilio Google.