Parhau mae’r teyrngedau i’r diweddar Aelod Seneddol, Paul Flynn, a fu farw yn 84 oed.

Yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, roedd Paul Flynn yn “ddatganolwr pybyr a wnaeth lawer i greu Llafur Cymru fodern.”

“Hyd yn oed pan oedd yn ymladd salwch difrifol, roedd ei ymrwymiad i’w etholwyr yn parhau,” meddai. “Diolch am bopeth, Paul.”

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, fod ei wrthwynebydd ar lawr Tŷ’r Cyffredin yn “Aelod Seneddol arbennig”.

“Roedd yn fraint gweithio gydag e wrth gymryd Deddf Cymru trwy’r Senedd pan oedd e’n Ysgrifennydd yr Wrthblaid tros Gymru,” meddai. “Roedd wastad gennym ni berthynas gynnes a chyfeillgar.”

Teyrngedau eraill

Ymhlith y gwleidyddion eraill sydd wedi talu teyrnged i’r diweddar Aelod Seneddol tros Orllewin Casnewydd mae rhai o aelodau Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn ôl Ben Lake, yr Aelod Seneddol ieuengaf yng Nghymru, roedd Paul Flynn yn “gawr o Gymro”.

“Doedd dim diwedd i’w garedigrwydd, a doedd gan ei onestrwydd ddim ofn,” meddai. “Roedd yn ddyn da a fydd yn cael ei golli gan bawb.”

Ychwanega Liz Saville Roberts fod y gwleidydd Llafur yn “arwr o wleidydd a Chymro twymgalon, croesawgar”, tra bo Jonathan Edwards yn dweud bod marwolaeth Paul Flynn yn “golled enfawr i fywyd cyhoeddus Cymru.”

“Ymladd tros achos pawb”

Mae cynghorydd lleol yn ninas Casnewydd yn cofio Paul Flynn fel un a fu’n “ymladd tros achos pawb”.

Er bod Debbie Harvey yn gynghorydd ar ward Alway yn nwyrain y ddinas, mae’n dweud bod dylanwad yr Aelod Seneddol tros Orllewin Casnewydd i’w deimlo dros y ddinas gyfan.

“Dw i o ddwyrain Casnewydd, ond roeddwn i’n ymwneud â Paul,” meddai wrth golwg360. “Roedd yn un o’r bobol hynny y gallech chi siarad ac uniaethu ag e. Roedd e’n deall popeth.

“Roedd e’n ymladd tros achos pawb. Dim ots beth oedd safbwynt y blaid [Lafur], roedd Paul yn Paul.

“Os oedd e’n teimlo’n ddigon cryf tros rywbeth, fe fyddai’n siarad yn ei erbyn a dyna ddiwedd ar y mater.

“Dyna beth rydych chi eisiau. Rydych chi eisiau i’ch cynrychiolydd yn y Senedd i siarad ar eich rhan, a dyna’n union beth a wnaeth Paul.”

Hanes

Cafodd Paul Flynn ei ethol i Dŷ’r Cyffredin yn 1987 ac oddi ar hynny bu’n llefarydd materion Cymreig ei blaid ac yn arweinydd cysgodol y Tŷ.

Yn 81 oed ar y pryd, ef oedd yr Aelod Seneddol hynaf i fod yn aelod o’r cabinet cysgodol ers dros ganrif.

Ym mis Hydref y llynedd, fe gyhoeddodd ei fod yn bwriadu camu o’r neilltu wedi 31 o flynyddoedd yn ei swydd.