Mae angen gwneud mwy na dim ond datganoli grym i Gymru, yn ôl aelod seneddol Ceredigion – mae angen dysgu defnyddio’r grym yn wahanol hefyd.

“R’yn ni wedi cwympo i mewn i ryw fath o drap,” meddai Ben Lake, AS Plaid Cymru, wrth siarad yn fyrfyfyr gyda chynulleidfa o gynrychiolwyr mentrau cymunedol yn Nhregaron.

“Y duedd yw meddwl biod rhaid i ni efelychu Lloegr fach yng Nghymru a chreu Llundain fach yng Nghaerdydd.”

Edrych eto

Fe ddywedodd fod angen i bawb – gan gynnwys Plaid Cymru – ystyried eto sut i ddefnyddio grym a’i ledu a’i rannu ymhellach.

“R’yn ni’n tueddu i ddweud rhaid inni gael y pŵer yma ac, yna, pan maen dod i Gaerdydd, r’yn ni’n symud ymlaen at y pŵer nesa’, gan efelychu’r ffordd y mae’r pŵer yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr a’r unig beth r’yn ni’n ei greu yw Llundain fach yng Nghaerdydd.”

Yr hyn oedd yn ei sbarduno oedd ei gariad at ei filltir sgwâr yng Ngheredigion, meddai, ac roedd am weld grym yn cael ei ddatganoli ymhellach.

Rhannu syniadau

Roedd yn siarad mewn Ffair Ffeirio Syniadau a oedd wedi ei threfnu gan gwmni Iaith Cyf, gyda chynrychiolwyr o fentrau cymunedol o bob rhan o Gymru.

Roedd y rheiny’n cynnwys mentrau yn Nhregaron ei hun, gan gynnwys yr ŵyl bop Tregaroc, y mudiad gwyliau chwaraeon Campau Caron a’r criw gwirfoddol sy’n cynnal y Ganolfan Hamdden yn y dre’.

Neges y cyfarfod oedd bod yna gyfle i fentrau gydweithio a rhannu syniadau i greu sector newydd pwerus yn economi Cymru.